Offerynnau Statudol 2006 Rhif 126 (Cy.19)

      Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006


      © Hawlfraint y Goron 2006

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006, ISBN 011091256X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


      OFFERYNNAU STATUDOL


      2006 Rhif 126 (Cy.19)

      ADDYSG, CYMRU

      Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006

        Wedi'u gwneud 24 Ionawr 2006 
        Yn dod i rym 1 Mawrth 2006 


      TREFN Y RHEOLIADAU


      RHAN 1

      CYFFREDINOL
      1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
      2. Dehongli
      3. Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

      RHAN 2

      CYMHWYSTRA
      4. Myfyrwyr cymwys
      5. Cyrsiau dynodedig
      6. Cyfnod cymhwystra
      7. Astudio blaenorol
      8. Trosglwyddo statws

      RHAN 3

      GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH
      9. Ceisiadau am gymorth
      10. Terfynau amser
      11. Gwybodaeth

      RHAN 4

      GRANTIAU AT FFIOEDD
      12. Amodau'r hawl i gael grantiau at ffioedd
      13. Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus
      14. Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat

      RHAN 5

      BENTHYCIADAU AT FFIOEDD
      15. Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd
      16. Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd
      17. Benthyciadau at ffioedd

      RHAN 6

      GRANTIAU AT GOSTAU BYW
      18. Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw
      19. Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl
      20. Grantiau i fyfyrwyr sydd wedi ymadael â gofal
      21. Grantiau ar gyfer dibynyddion- cyffredinol
      22. Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant dibynyddion mewn oed
      23. Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant gofal plant
      24. Grantiau ar gyfer dibynyddion- lwfans dysgu rhieni
      25. Grantiau ar gyfer dibynyddion- eu cyfrifo
      26. Grantiau ar gyfer dibynyddion- dehongli
      27. Grantiau at deithio
      28. Grantiau addysg uwch
      29. Grantiau cynhaliaeth
      30. Grant Cymorth Arbennig

      RHAN 7

      BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW
      31. Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw
      32. Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn
      33—34. Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn
      35. Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng
      36. Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni
      37. Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer tri chwarter y flwyddyn academaidd
      38. Myfyrwyr sy'n syrthio i fwy nag un categori
      39. Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd
      40. Codiadau yn yr uchafswm
      41. Didynnu o fenthyciadau at gostau byw
      42. Dehongli Rhan 7

      RHAN 8

      DARPARIAETHAU CYFFREDINOL YNGLŷN Â BENTHYCIADAU
      43. Symiau ychwanegol o fenthyciadau
      44. Llog

      RHAN 9

      ASESIAD ARIANNOL
      45. Cyfrifo'r cyfraniad
      46. Cymhwyso'r cyfraniad

      RHAN 10

      TALIADAU
      47. Talu grantiau neu fenthyciadau at ffioedd
      48. Talu grantiau a benthyciadau at gostau byw
      49. Gordalu

      RHAN 11

      CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
      50. Myfyrwyr rhan-amser cymwys
      51. Cyrsiau rhan-amser dynodedig
      52. Cyfnod cymhwystra
      53. Cymorth at gyrsiau rhan-amser
      54. Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl
      55. Ceisiadau am gymorth
      56. Gwybodaeth
      57. Trosglwyddo statws
      58. Trosi statws
      59. Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys
      60. Talu grantiau at ffioedd
      61. Gordalu

      RHAN 12

      CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU
      62. Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys
      63. Cyrsiau ôl-raddedig dynodedig
      64. Cyfnod cymhwystra
      65. Trosglwyddo statws
      66. Ceisiadau am gymorth
      67. Gwybodaeth
      68. Swm grantiau
      69. Talu grantiau
      70. Gordalu

        ATODLEN 1 MYFYRWYR CYMWYS

        ATODLEN 2 CYRSIAU DYNODEDIG

        ATODLEN 3 GWYBODAETH

        ATODLEN 4 ASESIAD ARIANNOL

      Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
      1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



      RHAN 1

      CYFFREDINOL

      Enwi, cychwyn a chymhwyso
           1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006.

          (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

      Dehongli
          
      2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

        ystyr "a ariennir yn gyhoeddus" ("publicly-funded") yw yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau ailadroddus o'r cronfeydd cyhoeddus ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hyn;

        ystyr "Ardal Economaidd Ewropeaidd" ("European Economic Area") yw'r Gymuned Ewropeaidd ac ardal Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;

        mae i "athro neu athrawes gymwysedig" yr ystyr a roddir i "qualified teacher" yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002[2];

        ystyr "awdurdod academaidd" ("academic authority"), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

        ystyr "benthyciad" ("loan"), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad tuag at gynhaliaeth neu ffioedd cwrs myfyriwr yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, gan gynnwys y llog sy'n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau sy'n codi mewn cysylltiad ag ef;

        ystyr "benthyciwr" ("borrower") yw person y mae benthyciad wedi'i roi iddo;

        ystyr "blwyddyn academaidd" ("academic year") yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

        ystyr "bwrsari gofal iechyd" ("healthcare bursary") yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968[3] neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972[4];

        ystyr "cronfeydd cyhoeddus" ("public funds") yw arian sy'n cael ei ddarparu gan y Senedd gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

        ystyr "cwrs addysg uwch" ("higher education course") yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;

        mae "cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon" ("course for the initial training of teachers") yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ac nid yw'n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon ar cyflogaeth;

        ystyr "cwrs carlam" ("accelerated course") yw cwrs y mae'r sefydliad sy'n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol i'r personau sy'n ei gymryd fod yn bresennol (boed ar fangre'r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol, a hwnnw'n gwrs sy'n para am ddwy flwyddyn academaidd;

        ystyr "cwrs dynodedig" ("designated course") yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 5 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5;

        ystyr "cwrs dynodedig rhan-amser" ("designated part-time course") yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 51 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 51;

        ystyr "cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion" ("flexible postgraduate ITT course") yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a'i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr cymwys ac sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion[5];

        ystyr "cwrs ôl-raddedig dynodedig" ("designated postgraduate course") yw cwrs sydd wedi'i ddynodi o dan reoliad 63 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 63;

        ystyr "cwrs pen-ben" ("end-on course") yw—

        (a) cwrs gradd gyntaf amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i dderbyn un o'r rhain ar ei gyfer;

        (b) cwrs gradd anrhydedd amser-llawn sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 neu ar ei ôl a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn gradd sylfaenol ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer;

        (c) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2006 nad yw'n para am fwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser mewn modd sy'n gyfartal i hyd y cwrs llawn-amser sy'n cyfateb iddo) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer;

        ystyr "cwrs presennol" ("present course") yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;

        mae i "cwrs rhyngosod" ("sandwich course") yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

        ystyr "cyfnodau o brofiad gwaith" ("periods of work experience") yw—

        (a) cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy'n gysylltiedig ag astudiaethau amser-llawn mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i'r sefydliad hwnnw;

        (b) cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae'r myfyriwr yn ei hastudio at ei gwrs (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion ei gwrs a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

        ystyr "cyfraniad" ("contribution") yw cyfraniad myfyriwr cymwys wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 45 ac Atodlen 4;

        ystyr “Cyngor Ymchwil ("Research Council") yw unrhyw un o'r cynghorau ymchwil canlynol—

        (a) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau,

        (b) Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol,

        (c) Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,

        (ch) Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol,

        (d) Y Cyngor Ymchwil Meddygol,

        (dd) Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,

        (e) Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth;

        ystyr "cymorth" ("support") yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad sy'n cael eu rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

        ystyr "cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd" ("former Metropolitan Police District") yw—

        (a) Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a'r Deml Ganol;

        (b) yn sir Essex, yn nosbarth Epping Forest—

               ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,

               plwyf Waltham Abbey;

        (c) yn sir Hertfordshire—

               ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,

               dosbarth Hertsmere,

               yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; ac

        (ch) yn sir Surrey—

               ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,

               bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,

               yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;

        ystyr "cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth" ("employment-based teacher training scheme") yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rheoliad 8 o'r Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004[6] sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig tra'i fod yn cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, mewn ysgol annibynnol neu mewn sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

        ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru”;

        ystyr "Cytundeb y Swistir" ("Switzerland Agreement") yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law a Chydffederasiwn y Swistir ar y llaw arall, ynghylch Symud Rhydd i Bersonau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999[7] ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

        ystyr "Cytundeb yr AEE" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992[8] fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993[9];

        ystyr "chwarter" ("quarter") mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno—

        (a) sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n diweddu ar 31 Mawrth;

        (b) sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n diweddu ar 30 Mehefin;

        (c) sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy'n diweddu ar 31 Awst; neu

        (ch) sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n diweddu ar 31 Rhagfyr;

        ystyr "Deddf 1962" ("the 1962 Act") yw Deddf Addysg 1962[10];

        ystyr "dyfarniad statudol" ("statutory award") yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd y Ddeddf neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;

        ystyr "dyfarniad trosiannol" ("transitional award") yw dyfarniad a wnaed o dan Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 1998[11] heblaw hen ddyfarniad;

        ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

        ystyr "y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr" ("student loans legislation") yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990[12], Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990[13], Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998[14] a rheoliadau a wnaed odano neu'r Ddeddf a rheoliadau a wnaed odani;

        ystyr "ffoadur" ("refugee") yw person a gydnabuwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951[15] fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967[16] ac mae unrhyw gyfeiriad at blentyn i ffoadur yn cynnwys cyfeiriad at lysblentyn;

        mae i "gweithiwr mudol o'r AEE" ("EEA migrant worker") yr ystyr a roddir ym mharagraff (5);

        ystyr "y Gymuned Ewropeaidd" ("European Community") yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro;

        mae "hen ddyfarniad" ("old award") yn ddyfarniad o fewn ystyr "award" yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003[17];

        mae i "incwm yr aelwyd", "incwm aelwyd" ac "incwm sydd gan yr aelwyd" ("household income") yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 4;

        ystyr "lwfans gofal iechyd yr Alban" ("Scottish healthcare allowance") yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980[18] a roddwyd mewn perthynas â pherson sy'n bresennol ar gwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd heblaw fel doctor meddygol neu ddeintydd;

        mae "llofnod electronig" ("electronic signature") yn golygu cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

        (a) wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a

        (b) yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i sefydlu bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;

        mae i "myfyriwr cymwys" ("eligible student") yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

        ystyr "myfyriwr cymwys dan y drefn newydd" ("new system eligible student") yw myfyriwr cymwys sy'n cychwyn ar y cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac sydd heb fod yn fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn;

        ystyr "myfyriwr cymwys dan yr hen drefn" ("old system eligible student") yw myfyriwr cymwys—

             (sa) sydd wedi cychwyn ar y cwrs cyfredol cyn 1 Medi 2006,

        (b) sy'n fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd,

        (c) sy'n cychwyn ar y cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 os yw'r cwrs hwnnw yn gwrs pen-ben mewn cysylltiad â chwrs y cychwynnodd arno cyn 1 Medi 2006 neu, yn achos myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, cyn 1 Medi 2007, neu

        (ch) sy'n cychwyn ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y cychwynnodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2006 neu, yn achos myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, cyn 1 Medi 2007, ac y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw, ei fod yn fyfyriwr cymwys;

        ystyr "myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon" ("type 1 teacher training student") yw myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb at ddibenion ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos;

        ystyr "myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon" ("type 2 teacher training student") yw myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb at ddibenion ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer yn 10 wythnos neu fwy;

        y mae i "myfyriwr ôl-raddedig cymwys" ("eligible postgraduate student") yr ystyr a roddir yn rheoliad 62;

        mae i "myfyriwr rhan-amser cymwys" ("eligible part-time student") yr ystyr a roddir yn rheoliad 50;

        ystyr "Rheoliadau 1998" ("the 1998 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998[19];

        ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999[20];

        ystyr "Rheoliadau 2000" ("the 2000 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000[21];

        ystyr "Rheoliadau 2001" ("the 2001 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001[22];

        ystyr "Rheoliadau 2002" ("the 2002 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002[23];

        ystyr Rheoliadau 2003” ("the 2003 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002[24] fel y'u diwygiwyd dim ond gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2003[25] a Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003[26];

        ystyr "Rheoliadau 2004" ("the 2004 Regulations") yw Rheoliadau 2003 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2004[27], Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 2) 2004[28], Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 3) 2004[29], Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 4) 2004[30] a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2005[31];

        ystyr "Rheoliadau 2005" ("the 2005 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005[32] fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau (Cymorthi Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005;

        ystyr "Rhif cyfrif benthyciad myfyriwr" ("student loan account number") yw'r Rhif cyfrif a ddyrennir gan y rhoddwr benthyg ar gyfer benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr;

        ystyr "sefydliad preifat" ("private institution") yw sefydliad nad yw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus;

        ystyr "Ynysoedd" ("Islands") yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac

        ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;

          (2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu'r Ynysoedd o ganlyniad i symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn ymgymryd—

        (a) â'i gwrs presennol; neu

        (b) â chwrs dynodedig blaenorol yr oedd y myfyriwr, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn ymgymryd ag ef yn union cyn ymgymryd â'i gwrs presennol,

      yn preswylio yn gyffredinol yn y lle y symudodd y person hwnnw ohono.

          (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gan gynnwys er mwyn penderfynu a yw person wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr Deddf Mewnfudo 1971[33], trinnir person fel pe bai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod y person, priod neu bartner sifil y person neu riant neu warcheidwad y person neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto neu unrhyw berson sy'n gofalu amdano os yw'r person yn blentyn, yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ac nid yw paragraff 9(c) o Atodlen 1 yn gymwys yn achos person o'r fath. Heb ragfarnu'r uchod, rhaid trin aelodau o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron fel pe baent wedi'u cyflogi dros dro o fewn ystyr y paragraff hwn am unrhyw gyfnod y byddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r lluoedd hynny.

          (4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod ardal—

        (a) nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd na'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

        (b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall neu'r ddwy o'r ardaloedd hyn,

      bob amser wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

          (5) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at weithiwr mudol o'r AEE yn gyfeiriad at berson sy'n wladolyn un o Aelod-wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ac sydd wedi ymgymryd â gweithgaredd fel person cyflogedig yn y Deyrnas Unedig—

        (a) o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ynghylch rhyddid symud gweithwyr yn y Gymuned[34], fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir; neu

        (b) o dan amgylchiadau lle mae gan y person fel un o wladolion y Deyrnas Unedig hawl Gymunedol orfodadwy i gael ei drin heb fod yn llai ffafriol na gwladolyn Aelod-wladwriaeth arall mewn perthynas â materion sy'n destun Rheoliad y Cyngor a grybwyllwyd uchod.

          (6) Yn y Rheoliadau hyn—

        (a) mae cwrs yn "gwrs rhyngosod"("sandwich course")—

          (i) os nad yw'n gwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o Atodlen 2;

          (ii) os yw'n cynnwys cyfnodau o astudio amser-llawn mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

          (iii) gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw'r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio amser-llawn am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;

        (b) er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr, trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac

        (c) os ceir cyfnodau o astudio amser-llawn am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae'r dyddiau o astudio amser-llawn yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio amser-llawn wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio amser-llawn ym mhob blwyddyn.

          (7) Ac eithrio yn achos rheoliad 27 (grant at deithio), mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at "bresenoldeb" myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn cynnwys ymgymryd â chwrs drwy ddysgu o hirbell os nad yw'r myfyriwr cymwys yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol am ei fod yn anabl.

          (8) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd" ("gap-year student") yw myfyriwr cymwys y mae paragraffau (9) neu (10) yn gymwys iddo ac sy'n cychwyn ar gwrs dynodedig ("y cwrs presennol") ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

          (9) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

        (a) a oedd wedi cael cynnig lle, ar 1 Awst 2005 neu cyn hynny, pa un ai yn amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs cyffelyb, a

        (b) sy'n cychwyn ar flwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol cyn 1 Medi 2007.

          (10) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

        (a) a oedd wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd y cwrs hwnnw yn dechrau cyn 1 Medi 2006,

        (b) na allai dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster neu safon dynodedig,

        (c) a apeliodd yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo,

        (ch) os caniatawyd yr apêl ar ôl y dyddiad diwethaf y gallasai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig,

        (d) os, o ganlyniad i ganiatáu'r apêl honno, y cafodd gynnig lle ar y cwrs presennol, a

        (dd) os yw blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs perthnasol yn cychwyn ar ôl 31 Awst 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

          (11) At ddibenion paragraff (2)(a) mae cwrs ("y cwrs gwreiddiol") yn gyffelyb i'r cwrs presennol—

        (a) os yw'n ymddangos i gorff llywodraethu'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a

        (b) ac eithrio pan nad yw'r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu bellach, os yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fuasai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.

          (12) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y cwrs dynodedig a bennir" ("specified designated course") yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (13) a (14).

          (13) Os cafodd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddiad, neu fwy nag un trosglwyddiad, o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol oddi ar gwrs (y "cwrs cychwynnol") y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.

          (14) Os yw'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben ag ef ("y cwrs blaenorol"). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs pen-ben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun, mewn cysylltiad ag ef, yn gwrs pen-ben.

      Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol
           3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru ar 1 Medi 2006—

        (a) Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005

        (b) Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005; ac

        (c) Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005.

          (2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

          (3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

          (4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

          (5) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

          (6) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn—

        (a) os yw person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu

        (b) os na roddwyd dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi i'r person pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,

      mae'r person yn fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4, 5 a 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (7) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 7 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cefnogaeth o dan Ran 7.

          (7) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson fenthyciad neu os oedd yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998, mae'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 7 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu ag unrhyw gwrs dynodedig dilynol y bydd yn dechrau arno (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, ond oni bai bod paragraff (6) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf grant o dan Rannau 4, 5 a 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau perthnasol yr hawl i gael cefnogaeth o dan Rannau 4, 5 a 6.



      RHAN 2

      CYMHWYSTRA

      Myfyrwyr cymwys
          
      4. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

          (2) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

        (a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y person wedi'i grybwyll yn Atodlen 1; a

        (b) os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).

          (3) Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys—

        (a) os oes hen ddyfarniad wedi'i roi i'r person hwnnw mewn perthynas â phresenoldeb y person ar y cwrs;

        (b) os yw'r person yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

        (c) os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs—

          (i) bwrsari gofal iechyd nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu

          (ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992[
          35];

        (ch) os yw'r person wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

        (d) os yw'r person wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

        (dd) os yw'r person, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

          (4) At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

          (5) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

        (a) cyn 25 Medi 1991, a

        (b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y mae paragraff 3(d) yn gymwys.

          (6) Rhaid i fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 beidio, ar unrhyw un adeg, â bod â hawl i gael cymorth—

        (a) at fwy nag un cwrs dynodedig;

        (b) at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

        (c) at gwrs dynodedig a chwrs ôl-raddedig dynodedig.

          (7) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n bodloni'r gofynion ym mharagraff (8), (9) neu (10).

          (8) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

        (a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

        (b) bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; ac

        (c) nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

          (9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

        (a) bod y cwrs presennol yn gwrs pen-ben y mae'r person yn ei ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

        (b) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben mewn perthynas ag ef ;

        (c) mai dim ond ar y sail yr oedd y myfyriwr wedi cwblhau'r cwrs y peidiodd y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r cwrs yn is-baragraff (b); ac

        (ch) bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b).

          (10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

        (a) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person—

          (i) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig; neu

          (ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig heblaw'r cwrs presennol,

        (b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

        (c) bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac

        (ch) nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

      Cyrsiau dynodedig
           5. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4 os yw—

        (a) wedi'i grybwyll yn Atodlen 2;

        (b) yn un o'r canlynol—

          (i) cwrs amser-llawn;

          (ii) cwrs rhyngosod; neu

          (iii) cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

        (c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

        (ch) yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

          (2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

          (3) At ddibenion paragraff (1)—

        (a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

        (b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

        (c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[
        36].

          (4) Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol—

        (a) er gwaetha'r ffaith y gall y cwrs arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu'r cymhwyster cyfatebol; a

        (b) er gwaetha'r ffaith y gall rhan o'r cwrs fod yn ddewisol.

          (5) Mae paragraff (4) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

          (6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

      Cyfnod cymhwystra
           6. —(1) Mae myfyriwr cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.

          (2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r "cyfnod cymhwystra" yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fo'r myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig.

          (3) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1 y mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac nad yw wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys.

          (4) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC y mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys, ac eithrio—

        (a) nad oes unrhyw didyniad sy'n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon; a

        (b) bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio yn achos myfyriwr cymwys na gwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf oherwydd rhesymau personol anorchfygol.

          (5) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.

          (6) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (7), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys.

          (7) Dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs pellach am y nifer o flynyddoedd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo ac sy'n dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'n trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar ôl 1 Medi 2006 yn gymwys.

          (8) Mewn unrhyw achos lle mae nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol yw'r blynyddoedd academaidd y mae gan y myfyriwr hawlogaeth ynddynt i gael grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

          (9) Yn y rheoliad hwn—

        (a) A yw nifer y blynyddoedd academaidd o 31 Awst 2006 sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, neu, yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y cwrs blaenorol;

        (b) OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol;

        (c) PC yw nifer y blynyddoedd y bu'r myfyriwr cymwys yn mynychu cwrs blaenorol;

        (ch) R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n cael eu hailwneud ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a'r rheini'n gyfnodau o ailwneud y blynyddoedd academaidd cynt nad oedd y myfyriwr yn gallu eu cwblhau'n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;

        (d) Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu'r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, ac y penderfynwyd mewn perthynas â'r cwrs hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd cymorth ar gael;

        (dd) Z yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

        (e) myfyriwr cymwys dan yr hen drefn a ddechreuodd y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ystyr "myfyriwr sy'n parhau" ("continuing student") yw;

        (f) ystyr "myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon" ("teacher training student") yw myfyriwr sy'n mynychu cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig;

        (ff) ystyr "myfyriwr sy'n trosglwyddo" ("transferring student") yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y cychwynnodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2006.

          (10) Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y paragraff hwn, trinnir presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd fel blwyddyn academaidd gyfan.

          (11) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

          (12) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael grantiau a benthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw nad yw yn unol â pharagraffau (3) i (9).

          (13) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr cymwys—

        (a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosi neu lle na fydd yn trosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 58(1); neu

        (b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

          (14) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

          (15) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

        (a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;

        (b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

        (c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 49.

      Astudio blaenorol
          
      7. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

          (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol.

          (3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.

          (4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dilyn cwrs sy'n arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

          (5) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, mae cwrs blaenorol yn unrhyw gwrs y bu'r myfyriwr yn bresennol arno cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff (6).

          (6) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw bod y cwrs yn gwrs addysg uwch amser-llawn a ddarparwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ac—

        (a) bod y sefydliad hwnnw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus pan ddarparwyd y cwrs; neu

        (b) bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarniad o unrhyw ddisgrifiad a oedd ar gael mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o'r cronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i'w priodoli i'r cronfeydd cyhoeddus gan unrhyw berson neu gorff, cyhoeddus neu breifat.

          (7) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr "cyfnod arferol y cwrs" ("ordinary duration of the course") yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr "myfyriwr safonol" ("standard student") yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un—

        (a) sydd wedi dechrau'r cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;

        (b) nad yw wedi'i esgusodi o ran o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall;

        (c) na fydd yn ailwneud unrhyw ran o'r cwrs; ac

        (ch) nad yw'n absennol o'r cwrs ac eithrio yn ystod y gwyliau.

      Trosglwyddo statws
          
      8. —(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw—

        (a) os daw cais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny;

        (b) os yw wedi ei fodloni bod un neu fwy nag un o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

        (c) os nad yw cyfnod y cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.

          (2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

        (a) bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs arall yn y sefydliad;

        (b) bod y myfyriwr cymwys yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall gyda chaniatâd awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw;

        (c) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, ar gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

        (ch) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, ar gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

        (d) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu yn yr un pynciau yn y sefydliad.

          (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i dderbyn, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo'r hawl i'w gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno, am weddill y flwyddyn academaidd y bydd yn trosglwyddo ynddi.

          (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.



      RHAN 3

      GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

      Ceisiadau am gymorth
          
      9. —(1) Rhaid i berson (y "ceisydd") wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

          (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

          (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl neu beidio i gael cymorth ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

      Terfynau amser
          
      10. —(1) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

          (2) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (1) yn gymwys—

        (a) os daw'r cwrs yn gwrs dynodedig ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cafodd y cwrs ei ddynodi;

        (b) os cydnabuwyd y ceisydd, priod y ceisydd, partner sifil y ceisydd neu riant y ceisydd fel ffoadur neu os rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y rhoddwyd y gydnabyddiaeth neu'r diwrnod y rhoddwyd y caniatâd, yn y drefn honno;

        (c) os nad yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 7 neu baragraff 8 o Atodlen 1 ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ond bod y ceisydd, o ganlyniad i'r ffaith bod y wladwriaeth y mae'r ceisydd yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd, yn dod yn berson o'r fath, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r wladwriaeth yn ymaelodi;

        (ch) os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 31 neu am swm ychwanegol o fenthyciad o dan reoliad 43(3), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;

        (d) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad o dan reoliad 43(1), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â'r uchafswm wedi'i gynyddu, p'un bynnag yw'r olaf;

        (dd) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 19, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

        (e) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.

      Gwybodaeth
          
      11. Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.



      RHAN 4

      GRANTIAU AT FFIOEDD

      Amodau'r hawl i gael grantiau at ffioedd
          
      12. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd[37] am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

          (2) Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 13 neu 14.

          (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

        (a) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

        (b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

        (c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS[38] ac—

          (i) bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a

          (ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

        (ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-raddedig hyblyg.

      Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus
           13. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn £1,200.

          (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £600 yn yr achosion canlynol—

        (a) blwyddyn derfynol y cwrs os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

        (b) mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—

          (i) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu

          (ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw gyfnod neu gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

        (c) mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (yn cynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;

        (ch) mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—

          (i) lle mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

          (ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, bod y cyfanswm o un neu fwy nag un o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

        (d) mewn perthynas â chwrs a ddarperir gan y Sefydliad Prydeinig ym Mharis a gychwynnodd cyn 1 Medi 2001.

          (3) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,145.

          (4) Caniateir didynnu swm oddi wrth y grant at ffioedd y penderfynnir arno o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 46.

      Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat
          
      14. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw £1,125.

          (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw £1,200—

        (a) os yw'r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl Medi 2001;

        (b) os yw'r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

        (c) os nad oes yr un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys.

          (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat yw £600—

        (a) os yw'r cwrs dynodedig yn dechrau ar 1 Medi 2001 neu ar ôl hynny;

        (b) os yw'r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

        (c) os oes un neu fwy nag un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys.

          (4) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,840.

          (5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Gerdd Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,355.

          (6) Caniateir didynnu swm o'r grant at ffioedd yn unol â rheoliad 46.



      RHAN 5

      BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

      Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd
          
      15. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi ei eithrio rhag bod yn gymwys gan y paragraff canlynol, gan reoliad 6 neu reoliad 7.

          (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

        (a) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

        (b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

        (c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS[
        39] ac—

          (i) bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a

          (ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

        (ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-raddedig hyblyg.

      Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd
           16. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw.

          (2) Os yw myfyriwr cymwys dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd, swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd oddi ar ei grant at ffioedd yn unol â rheoliad 46.

          (3) Os benthyciad at gyfraniad at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,200 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys, £600.

          (4) Caiff myfyriwr cymwys dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd—

          (i) os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd un dim ynghynt) yr hysbyswyd y myfyriwr ohono mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesiad o gyfraniad y myfyriwr neu mewn modd arall; a

          (ii) os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys dan yr hen drefn—

            (aa) methu â darparu yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae ganddo hawl i'w gael; neu

            (bb) darparu gwybodaeth y mae unrhyw fanylyn perthnasol ohoni yn anghywir.

          (5) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn swm sy'n fwy na'r uchafswm a gafodd ei gynyddu.

          (6) Os yw myfyriwr cymwys dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth iddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

          (7) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs mewn sefydliad preifat neu yng Ngholeg Heythrop.

      Benthyciadau at ffioedd
          
      17. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

          (2) Rhaid i swm benthyciad at ffi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r isod—

        (a) £3,000 neu, pan fo un o'r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn gymwys, £1,500; a

        (b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

          (3) Yn yr achosion a bennir yn rheoliad 13(2), uchafswm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,500.

          (4) Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffi mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.

          (5) Yr amgylchiadau yw—

        (a) bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo ohono; neu

        (b) bod blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd y myfyriwr hwnnw oddi arno.

          (6) Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, wedi didynnu oddi ar y swm hwnnw unrhyw fenthyciad at ffi y mae'r myfyriwr hwnnw wedi ei godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwyddod oddi arni.

          (7) Pan fo paragraff 5(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r isod—

        (a) £3,000 neu, pan fo un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys, £1,500; a

        (b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

          (8) Pan fo myfyriwr cymwys dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffi sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.



      RHAN 6

      GRANTIAU AT GOSTAU BYW

      Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw
          
      18. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon ar yr amod—

        (a) nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

        (b) bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol at gostau byw y mae'n gwneud cais amdano.

          (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

          (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—

        (a) pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;

        (b) pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu

        (c) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos.

          (4) Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 19.

          (5) Ac eithrio grant o dan reoliad 20, nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

          (6) At ddibenion paragraff (5), ystyr "gwasanaeth di-dâl" ("unpaid service") yw—

        (a) gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

        (b) gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

        (c) gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

        (ch) ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

        (d) gwasanaeth di-dâl gydag—

          (i) Awdurdod Iechyd neu Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[40] neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o'r Ddeddf honno[41] neu fwrdd iechyd lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16BA o'r Ddeddf honno[42];

          (ii) Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978[43]; neu

          (iii) Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972[44].

          (7) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (8), fe gaiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol at gostau byw yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

          (8) Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7)—

        (a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig; neu

        (b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.

      Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl
           19. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei dynnu mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

          (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.

          (3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

          (4) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

        (a) £12,135 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

        (b) £4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

        (c) y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—

          (i) yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,

          (ii) yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn y Sefydliad Prydeinig ym Mharis;

        (ch) £1,605 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

          (5) Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.

          (6) Uchafswm y grant o dan baragraffau (4)(a) a (4)(ch) yw £9,105 a £1,200, yn y drefn honno—

        (a) os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon; a

        (b) os yw cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn llai na 6 wythnos.

      Grantiau i fyfyrwyr sydd wedi ymadael â gofal
          
      20. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u bodloni.

          (2) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

        (a) bod y myfyriwr cymwys o dan 21 oed ar ddiwrnod cyntaf y cwrs;

        (b) bod y myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(dd) o Atodlen 4; ac

        (c) ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, fod y myfyriwr cymwys o dan fwy o galedi ariannol yn rhinwedd y ffaith ei fod yn syrthio o fewn paragraff 2(dd) o Atodlen 4 nag a fuasai fel arall.

          (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), swm y grant yw unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn briodol o dan yr amgylchiadau.

          (4) Uchafswm y grant yw £100 am bob wythnos neu ran o wythnos mewn blwyddyn academaidd—

        (a) sy'n syrthio o fewn y gwyliau hiraf a gymerir; a

        (b) na fydd y myfyriwr yn bresennol ar ei gwrs yn ystod yr un rhan ohoni.

      Grantiau ar gyfer dibynyddion- cyffredinol
          
      21. —(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

        (a) grant dibynyddion mewn oed;

        (b) grant gofal plant;

        (c) lwfans dysgu rhieni.

          (2) Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 22 i 25.

          (3) Caniateir didynnu o unrhyw un o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 46.

      Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant dibynyddion mewn oed
          
      22. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

          (2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â naill ai—

        (a) partner y myfyriwr cymwys; neu

        (b) dibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,350.

          (3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw—

        (a) £2,455; neu

        (b) pan fo'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,455 ac sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

          (4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—

        (a) os yw partner y myfyriwr cymwys—

          (i) yn fyfyriwr cymwys; neu

          (ii) yn dal dyfarniad statudol; a

        (b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

      Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant gofal plant
          
      23. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant mewn perthynas â chostau gofal plant ar gyfer pob plentyn dibynnol yn unol â'r rheoliad hwn.

          (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r gofal plant yn cael ei ddarparu gan ddarparydd gofal plant wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gofrestru—

        (a) os yw'r plentyn o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu

        (b) os oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a briodolir i "special educational needs" yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996[
        45] a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

          (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002[46].

          (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

        (a) ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau'r gofal plant, hyd at uchafswm o £175 yr wythnos; neu

        (b) ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau'r gofal plant, hyd at uchafswm o £300 yr wythnos,

      ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

          (5) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—

        (a) mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

        (b) os yw wythnos y caiff costau gofal plant eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (4) â chyfrannedd y nifer o ddyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd o'i chymharu â nifer y dyddiau mewn wythnos.

          (6) Mae swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—

        (a) os yw partner y myfyriwr cymwys—

          (i) yn fyfyriwr cymwys; neu

          (ii) yn dal dyfarniad statudol; a

        (b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

          (7) Yn y rheoliad hwn—

        (a) ystyr "darparydd gofal plant wedi'i gymeradwyo" ("approved childcare provider") yw darparydd gofal plant o fewn yr ystyr a briodolir i "childcare provider" yn Rheoliadau Credydau Treth (Categori Newydd o Ddarparydd Gofal Plant) 1999[47] ac sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau hynny; a

        (b) ystyr "darparydd gofal plant wedi'i gofrestru" ("registered childcare provider") yw person sy'n gweithredu fel gofalwr plant neu sy'n darparu gofal dydd ac sydd wedi'i gofrestru o fewn ystyr adran 79F o Ddeddf Plant 1989[48] (cofrestru neu wrthod cofrestru gofalwyr plant a phersonau sy'n darparu gofal dydd i blant ifanc).

      Grantiau ar gyfer dibynyddion- lwfans dysgu rhieni
           24. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.

          (2) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw £1,400.

      Grantiau ar gyfer dibynyddion- eu cyfrifo
          
      25. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 22 i 24 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A− B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

        (a) i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 22;

        (b) i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 23; ac

        (c) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 24.

          (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.

          (3) Os yw (A−B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

          (4) Rhaid gostwng swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 22(4).

          (5) Rhaid gostwng swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 23(6).

          (6) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

          (7) Yn y rheoliad hwn—

             A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

             B yw £1,075 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;

             £3,225 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

             £4,300 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;

             £4,300 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

             £5,380 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

          (8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—

        (a) bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

        (b) bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

        (c) bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;

        (ch) bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 18(8).

          (9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—

        (a) faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

        (b) pwy yw'r dibynyddion hynny;

        (c) a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

          (10) Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

          (11) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

          (12) Yn y rheoliad hwn, ystyr "chwarter perthnasol" ("relevant quarter") yw—

        (a) yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd heblaw chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol;

        (b) fel arall, chwarter heblaw'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

      Grantiau ar gyfer dibynyddion- dehongli
          
      26. —(1) Yn rheoliadau 21 i 25—

        (a) ystyr "dibynnol" ("dependent") yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

        (b) ystyr "dibynnydd" ("dependant"), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

        (c) ystyr "dibynnydd mewn oed" ("adult dependant"), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner neu gyn bartner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil nad yw fel arfer yn preswylio gyda'r myfyriwr);

        (ch) mae i "incwm net" ("net income") yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

        (d) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (dd), (e) ac (f), ystyr "partner" ("partner") yw unrhyw un o'r canlynol—

          (i) priod myfyriwr cymwys;

          (ii) partner sifil myfyriwr cymwys;

          (iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

          (iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr cymwys os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

        (dd) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (d) yn cael ei drin fel partner—

          (i) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu

          (ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;

        (e) at ddibenion is-baragraff (c), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4;

        (f) at ddibenion is-baragraffau (ff) ac (g), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar ei gwrs neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4;

        (ff) mae "plentyn" ("child") mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto os yw'r plant hynny'n dibynnu ar y myfyriwr; ac

        (g) ystyr "rhiant unigol" ("lone parent") yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol.

          (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

        (a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

        (b) budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[
        49];

        (c) unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[50];

        (ch) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

        (d) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989[51];

        (dd) unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac

        (e) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.

          (3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—

        (a) swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

        (b) unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

          (4) At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.

      Grantiau at deithio
           27. —(1) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae cyfnod o astudio drwy hyfforddiant clinigol yn rhan angenrheidiol ohono) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd er mwyn bod yn bresennol mewn cysylltiad â'i gwrs mewn unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol heblaw gwariant sy'n cael ei dynnu at ddibenion astudiaethau preswyl i ffwrdd o'r sefydliad.

          (2) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs.

          (3) Mae swm y grant sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion ym mharagraff (1) neu baragraff (2).

          (4) Wrth benderfynu ar y gwariant sy'n cael ei dynnu gan fyfyriwr cymwys mae £285 o'r gwariant hwnnw'n cael ei anwybyddu.

          (5) At ddibenion y rheoliad hwn mae unrhyw gyfeiriad at wariant sy'n cael ei dynnu er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad neu ar gyfnod o astudio—

        (a) yn cynnwys gwariant cyn bod yn bresennol felly ac wedyn; a

        (b) yn hepgor unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 19.

          (6) Os bydd myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs a'i fod yn rhesymol yn dynnu unrhyw wariant i yswirio yn erbyn atebolrwydd am gost triniaeth feddygol sy'n cael ei darparu y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar gyfer unrhyw salwch neu anaf i'r corff a geir neu a ddioddefir yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ganddo hawl i gael grant ychwanegol o dan y rheoliad hwn sy'n hafal i'r swm sy'n cael ei dynnu felly.

          (7) Caniateir didynnu o'r grant o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 46.

      Grantiau addysg uwch
          
      28. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu tynnu er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

          (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

          (3) Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.

          (4) Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn—

        (a) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £15,970 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;

        (b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £15,970 ac nad yw'n fwy na £21,955, mae'r myfyriwr yn derbyn swm hafal i M− A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £15,970; ac mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £21,955, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.

      Grant cynhaliaeth
          
      29. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

          (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.

          (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant cynhaliaeth oni bai ei fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

          (4) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

        (a) yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,350;

        (b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700; ac

        (c) yn achos myfyriwr dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700.

          (5) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

        (a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £1,350;

        (b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,350 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

        (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, bydd yn cael £600.

          (6) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

        (a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, bydd yn cael £2,700;

        (b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M− A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

        (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, bydd yn cael £1,200.

          (7) Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

        (a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, bydd yn cael £2,700;

        (b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M− A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

        (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500 ond heb fod uwchlaw £37,425, bydd yn derbyn swm hafal i RM−A, pan fo RM yn £1,200 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

        (ch) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £37,425 ni thelir grant cynhaliaeth.

      Grant Cymorth Arbennig
          
      30. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael ei dynnu er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

          (2) Mae gan fyfyriwr dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol a Budd-daliadau 1992.

          (3) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

        (a) yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,350;

        (b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700; ac

        (c) yn achos myfyriwr dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700.

          (4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

        (a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £1,350;

        (b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,350 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

        (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, mae'n cael £600.

          (5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

        (a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £2,700;

        (b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M-A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

        (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, mae'n cael £1,200.

          (6) Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

        (a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £2,700;

        (b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M−A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

        (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500 ond heb fod uwchlaw £37,425, bydd yn derbyn swm hafal i RM− A, pan fo RM yn £1,200 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500;

        (ch) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £37,425, ni thelir grant cynhaliaeth.



      RHAN 7

      BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

      Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw
          
      31. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) na rheoliad 7.

          (2) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

          (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

      Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn
          
      32. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs carlam), yw—

        (a) i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,415;

        (b) i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,170;

        (c) i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,255;

        (ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,255;

        (d) i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,405.

          (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam yw—

        (a) i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,085;

        (b) i fyfyriwr yng nghategori 2, £5,620;

        (c) i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,570;

        (ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, &