Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 011091404X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160A(3) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 9 Hydref 2006. (2) Yn y Rheoliadau hyn—
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(b) ar ôl paragraff (d), mewnosoder—
Darpariaethau trosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyrannu llety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996"). Mae rheoliad 2 yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 sy'n rhagnodi'r dosbarthau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod dosbarth newydd o bersonau sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai ac sy'n bersonau o dan ofal dyngarol. Math ar ganiatâd a roddir i bersonau nad ydynt yn gymwys i fod â statws ffoadur ond a fyddai'n wynebu gwir risg o ddioddef niwed difrifol pe baent yn cael eu dychwelyd i'r wladwriaeth y maent yn hanu ohoni (gweler paragraffau 339C-344C o'r Rheolau Mewnfudo (HC 395)) yw gofal dyngarol. Nid yw'r diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar geisiadau am ddyraniad o lety tai a wnaed cyn 9 Hydref 2006. Notes: [1] 1996 p. 52.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, ac Atodlen 1 iddo.back [4] O.S. 2003/239 (Cy. 36).back
ISBN 0 11 091404 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 October 2006 |